Royal College Mental Health Expert Advisory Group Wales

sefydlu grŵp cynghori ar gyfer iechyd meddwl

Heddiw, ar dydd Iau 12fed Awst, rydym yn falch o gyhoeddi sefydliad Grŵp Cynghori Arbenigol Iechyd Meddwl y Coleg Brenhinol yn ffurfiol.

Mae’r grŵp yn dod â phartneriaid o bob rhan o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd a byddant yn gweithredu fel ffynhonnell cyngor arbenigol diduedd, wedi’i seilio ar dystiolaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a rhanddeiliaid eraill.

Nod y grŵp hefyd yw sicrhau ffocws a dealltwriaeth fwy craff ar y gefnogaeth gyfredol ac angenrheidiol i’r bobl yr ydym yn eu cynrychioli gyda’n gilydd ym maes gofal cymdeithasol ac mewn gwasanaethau iechyd meddwl gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd.

Bydd y grŵp hwn yn ategu gwaith Academi Colegau Brenhinol Meddygol a fforymau eraill. Mae’r grŵp cynghori wedi sefydlu meysydd gwaith cyffredin Adfer Covid (gan gynnwys lles y gweithlu), Cynllun y Gweithlu Iechyd Meddwl, a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol fel blaenoriaethau cychwynnol.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn gynhwysfawr, a bydd y grŵp cynghori yn awyddus i ddatblygu a derbyn meysydd diddordeb pellach.

Mae’r aelodaeth lawn yn cynnwys:

Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd

Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol

Coleg Brenhinol y Ffisigwyr

Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant

Coleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru

Cymdeithas Fferyllol Frenhinol

Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapy

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gysylltu, cysylltwch â Liz Williams (Liz.Williams@rcpsych.ac.uk) ar ran y grŵp.

Quote